Cymorth cyfrinachol pan fydd ei angen fwyaf
|
| Pa bynnag broblem iechyd meddwl, corfforol, ariannol neu bersonol rydych chi'n ei hwynebu, manteisiwch ar gymorth a chefnogaeth arbenigol ar gyfer uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd, 24/7 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. Isod, mae ystod eang o arbenigwyr gofal a chymorth sy'n aros i glywed gennych. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn mor aml neu gyn lleied o weithiau ag yr hoffech chi. Nid oes terfyn ar y gefnogaeth y gallwch ei dderbyn. |
Math o cwnsela neu gymorth a ddarperir ar y pryd go iawn, ar y moment pan fydd rhywun yn profi problem penodol, ofid emosiynol, neu argyfwng. |
| | |
Siaradwch yn gyfrinachol â chwnselwyr ac arbenigwyr cymorth cymwysedig 24/7 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, er mwyn trafod unrhyw faterion emosiynol neu bersonol, neu faterion sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
|
| | |
Gallech gwrdd ? pherson i siarad wyneb yn wyneb. Mae ein t?m detholedig o gwnselwyr i gyd yn gymwys ac yn brofiadol iawn. Byddwch yn siarad yn gyfrinachol ? gweithiwr proffesiynol cydymdeimladol a dyma fydd y cam cyntaf at gael rhywfaint o gefnogaeth.
|
| | |
Rydym yn deall nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn trafod eu problemau neu bryderon gyda pherson arall. Manteisiwch ar ystod eang o gweithlyfrau hunangymorth Therapi Ymddygiad Gwybyddol sy'n cynnig cyngor ac arweiniad ar ystod o bynciau.
|
|
Cliciwch i weld y rhestr lawn
|
| |
| | |
Gall delio â dyled achosi straen a gall achosi pryder, sy'n golygu y gallech ei chael hi'n anodd canolbwyntio ar waith neu gyfrifoldebau eraill.
Mae Angel Advance yn darparu cyngor ar ddyled ar-lein 24/7 awr i'ch rhoi chi nol ar y trywydd iawn a'i gwneud yn haws i chi ddelio â'ch arian.
|
|
Gofynnwch am gyngor ar ddyled nawr
|
| |
| | |
Cymorth, cyngor ac awgrymiadau diduedd am ddim ar sut i leihau biliau eich cyfleustodau, rheoli eich arian a delio â phroblemau dyled, yn ogystal â chefnogaeth wrth fynd i'r afael â'r problemau hyn mewn sefyllfaoedd brys
|
| | |
Mae Bright Sky yn ap a gwefan diogel sy'n hawdd ei ddefnyddio ac yn rhoi cefnogaeth ymarferol i unrhyw un sydd mewn perthynas gamdriniol neu sy'n pryderu am rywun maen nhw'n ei adnabod o ran sut i ymateb i gam-drin domestig.
|
| | |
Mae Money Helper yn rhoi arweiniad diduedd ynglyn ag arian a phensiynau. Nod Money Helper yw cael gwared ar y cymhlethdodau o ran y materion yma, a rhoi gwybodaeth a chymorth i chi er mwyn rheoli eich arian. Maen nhw hefyd yn cynnig ystod o offer ymarferol ar y wefan, megis cyfrifiannell costau rhedeg car, costau magu babi, dull trefnu'ch biliau, a llawer yn rhagor! Cymorth am ddim a diduedd gydag arian, wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.
|
| | |
Mae'r wefan yma'n cynnwys llawer o wybodaeth am y cymorth ar gyfer costau byw sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys cymorth i ddod o hyd i dai ac/neu os ydych chi mewn perygl o fod yn ddigartref, cyngor ar arian a dyled, gwybodaeth am fanciau bwyd a llawer mwy.
Cymorth Costau Byw
|
| | |
Dyma ap ymwybyddiaeth ofalgar sy’n defnyddio’r Gymraeg yn unig i gynnig sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio yn ogystal â sesiynau tai chi ac yoga.
|
| | |
| | |